Iar bodlon iawnFe gawsom ateb i’n cwestiynau gan Russell, ac felly rydem wedi rhoi gorchudd dros y “run” i arbed y glaw ac fel cysgod rhag yr haul i’r ieir yn ystod y dydd. Fe gafodd yr ieir andros o hwyl dros y Pasg gan eu bod yn rhydd i grwydro drwy’r dydd, bob dydd, gan bod y plant a finnau adre o’r ysgol. Mae cwt wedi teithio i lawr un ochr o’r lawnt ac i ddweud y gwir does dim llawer o lanast ar eu hol.

Y broblem fwyaf ar hyn o bryd ydi cadw’r ieir allan o’r ardd datws. Mae’n nhw wrth eu bodd yn chwalu yn y pridd sych ac mae pob ffon bambw wedi ei gosod ar draws yr ardd datws ar hyn o bryd. Mae’r tacle drwg wedi cael hyd i ffordd i’r ardd flaen hefyd ac wedi dechrau crafu yn y gwlau llysiau mae Eurwyn yn eu paratoi.

I ddathlu ar ddiwedd y gwyliau cafodd yr ieir olchi eu traed mewn dwr a sebon cynnes.Cafodd pawb hwyl a hanner ac mi’r oedd gen i dipyn o waith sych dillad!