Iar bodlon iawnFe gawsom ateb i’n cwestiynau gan Russell, ac felly rydem wedi rhoi gorchudd dros y “run” i arbed y glaw ac fel cysgod rhag yr haul i’r ieir yn ystod y dydd. Fe gafodd yr ieir andros o hwyl dros y Pasg gan eu bod yn rhydd i grwydro drwy’r dydd, bob dydd, gan bod y plant a finnau adre o’r ysgol. Mae cwt wedi teithio i lawr un ochr o’r lawnt ac i ddweud y gwir does dim llawer o lanast ar eu hol.

Y broblem fwyaf ar hyn o bryd ydi cadw’r ieir allan o’r ardd datws. Mae’n nhw wrth eu bodd yn chwalu yn y pridd sych ac mae pob ffon bambw wedi ei gosod ar draws yr ardd datws ar hyn o bryd. Mae’r tacle drwg wedi cael hyd i ffordd i’r ardd flaen hefyd ac wedi dechrau crafu yn y gwlau llysiau mae Eurwyn yn eu paratoi.

I ddathlu ar ddiwedd y gwyliau cafodd yr ieir olchi eu traed mewn dwr a sebon cynnes.Cafodd pawb hwyl a hanner ac mi’r oedd gen i dipyn o waith sych dillad!

Tomos, Rhodd a Huw

Tomos, Rhodd a Huw

Dyma Tomos, Huw a Rhodd efo’r ieir a gawsom gan Russell. Mae nhw efo ni ers mis bellach ac fel y gwelwch maen nhw’n ddof iawn.

 

Dyma rai o’r cwestiynau a ddanfonwyd i Russell – roedd yn brydlon iawn yn eu hateb hefyd.

Oes angen rhoi gorchudd dros y cwt / run pan mae’n rhewllyd dros nos, neu yn dywydd gwlyb?

· Ydi’r ieir yn chwysu mewn tywydd poeth gan fod eu plu mor drwchus?

· Oes angen eu cysgodi rhag yr haul neu yden nhw’n ddigon call i fynd i mewn i’r cwt i gael cysgod?

· Oes angen “disinfectant” a sgwrio’r cwt tu fewn unwaith y mis?

· Ydi’r ieir yn hoffi glaw? –mae’n debyg bydd y tir yn troi yn fwdlyd ac yna yn baeddu eu traed pluog.

· Yden nhw’n ddigon call i gysgodi rhag y glaw yn y cwt? – mae un iair sef Disglair yn tueddu i sefyll yn y drws i stopio pawb arall i mewn.

· Gawn ni olchi eu traed efo dŵr a sebon rhywdro?

Cewch glywed yr atebion yn y man.

Fe gawsom dair iair ddu gan Russell dair wythnos yn ol. Mae pawb yma wedi dotio efo nhw. Cawson nhw’r Seromoni Enwi yn fuan iawn ar ol cyrraedd. “Disglair”  “Nos Pluen Dlos” a “Plwm Pwdin” ydi’r enwau swyddogol. Mae’n siwr bod pawb ar bigau eisiau gwybod os ydent wedi dodwy eto. Rhaid aros a gwel!